News: BBC Wales Looks For New Comic Talent: Page 2 of 2

  • Ydych chi’n joio gwneud i bobl chwerthin? Ydy’ch ffrindiau yn eu dyblau yn gwrando ar eich jôcs? Oes gennych chi syniad am gomedi Gymreig? Yna, mae BBC Cymru Wales eisiau clywed gennych.

    Heddiw mae BBC Cymru yn lansio cynllun newydd sbon i ganfod hyd at dair rhaglen gomedi ar gyfer BBC One Wales a BBC iPlayer. Mae Find Me Funny yn gynllun i ganfod rhaglenni comedi peilot ac wedi ei anelu at awduron sy’n byw neu’n gweithio’n llawn amser yng Nghymru, neu’r rheiny sy’n gallu adlewyrchu diwylliant Cymru. Y nôd yw comisiynu a darlledu’r peilots comedi yn 2018/19. Fe fydd y rhaglen beilot sy’n creu’r argraff orau - ac yn codi’r chwerthiniad uchaf - yn cael ei chomisiynu’n gyfres.

    Gan siarad mewn digwyddiad i wneuthurwyr rhaglenni teledu ac awduron yng Nghaerdydd heddiw, dywed Nick Andrews, Pennaeth Comisiynu BBC Cymru: “Mae chwerthin a chomedi yn rhan annatod ohonom ni fel Cymry - ’da ni’n genedl o gomedïwyr fel Ruth Jones, Rob Brydon a Rhod Gilbert, i enwi dim ond rhai. Mae BBC Cymru yn edrych am y genhedlaeth nesaf o ysgrifenwyr drama a chomedi. ’Da ni’n edrych am ogwydd newydd ar fywydau a chymeriadau’r Gymru fodern a lleisiau newydd a chyffrous sy’n adlewyrchu amrywiaeth ein gwlad.”

    Dywed Pennaeth Comedi’r BBC, Shane Allen: “Dyma gyfle cyffrous iawn i ni ganfod a chefnogi haen newydd o dalent comedi Cymreig mewn ffordd ymarferol iawn. Roedd Gavin & Stacey yn gyfres gomedi boblogaidd tu hwnt wedi ei ffilmio yng Nghymru ac yn portreadu’r wlad mewn ffordd sydd dal wrth fodd cynulleidfaoedd - rydym am adeiliadu ar hynny gan roi hwb i ysgrifenwyr comedi newydd yn ogystal â pherfformwyr sy’n edrych am eu cyfle mawr.”

    Dywed Anne Edyvean, Pennaeth BBC Writersroom: “Rydym wrth ein boddau yn cael cydweithio efo BBC Cymru ar y cyfle cyffrous hwn i awduron Cymreig. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddarllen y sgriptiau sy’n adrodd hanesion doniol a rhyfeddol am Gymru heddiw.”

    Mae gan awduron newydd a sefydledig ddau fis i gwblhau sgript eu rhaglen beilot, a ddylai fod o leiaf 30 munud o hyd. Dylid cyflwyno’r ceisiadau, drwy wefan BBC Writersroom, erbyn y 15fed o Ionawr 2018.

    • Mae angen i’r ceisiadau fod yn sgript drama-gomedi neu ‘sit-com’ ar gyfer teledu ac iPlayer ac o leiaf hanner awr o hyd. Nid ydym yn edrych am gomedi ffug-ffeithiol.
    • Mae’r cynllun hwn yn gofyn am ddeunydd sy’n adlewyrchu’r Gymru fodern ac yn agored i ysgrifenwyr sy’n byw neu’n gweithio’n llawn amser yng Nghymru, neu’r ysgrifenwyr hynny sy’n gallu adlewychru diwylliant Cymreig.
    • Gall awduron hefyd gynnwys amlinelliad byr (1 - 3 tudalen) o benodau pellach a’r gyfres fel cyfanwaith.
    • Gall awduron anfon hyd at ddau sgript. Ni ddylai’r sgript fod wedi ei chynhyrchu yn y gorffennol.
    • Caiff y sgriptiau eu darllen yn ddi-enw hyd nes cwblhau’r darlleniad llawn. Cofiwch dynnu eich manylion cyswllt a’ch enw o’r sgript.
    • Mae gwarant y caiff pob cais ei darllen hyd o leiaf tudalen 10 o’r gwaith gan y panel darllen. Caiff ceisiadau sy’n cyrraedd y rhestr hir eu darllen ar eu hyd. Bydd cynhyrchwyr BBC Writersroom a chomisiynwyr BBC Cymru yn darllen bob cais sydd ar y rhestr fer.
    • Mae modd i sgriptiau gael eu cyflwyno gyda chwmni cynhyrchu ynghlwm â nhw ond does dim rhaid. Lle nad oes cwmni, fe wnawn bartneru sgriptiau llwyddiannus efo cwmni cynhyrchu addas.

Tags: 

Articles on beyond the joke contain affiliate ticket links that earn us revenue. BTJ needs your continued support to continue - if you would like to help to keep the site going, please consider donating.

Zircon - This is a contributing Drupal Theme
Design by WeebPal.